Proffil AlphaPlus

Mae AlphaPlus yn gorff ymgynghorol gyda llawer o brofiad ym myd addysg a hyfforddiant gyda phortffolio mawr ac amrywiol o waith yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r tîm ymgynghorol yn hollol gyfarwydd â gofynion arbennig gweithio mewn lleoliadau rhyngwladol.Mae’r gofynion yn cynnwys adnabod arferion ac amgylchiadau lleol a pherthnasu â hwy ac, yn hanfodol, cynorthwyo i ddatblygu’r cyfundrefnau mwyaf addas i’w lleoliad ac sy’n yn unigryw a phriodol.

 Mae prif gryfderau’r sefydliad mewn:

Asesu ac arholiadau cyhoeddus

Yn y sector arholiadau cyhoeddus y mae gwreiddiau AlphaPlus. Yr oedd yr holl gyfarwyddwyr a’i sefydlodd yn gweithio mewn Sefydliadau Dyfarnu neu gyrff rheolaethol ar lefel prif weithredwr, mewn ymchwil, ac mewn dylunio, cynhyrchu a sicrhau ansawdd rhaglenni cymwysterau ac asesu. Mae AlphaPlus hefyd yn arbenigwyr ar brofi a marcio ar-sgrin a chynnig cefnogaeth i gyflwyno rhai o raglenni e-asesu mwyaf y byd.

 Rydym yn hyfforddi awduron a golygyddion Cyrff Dyfarnu yn y DU a thu hwnt wrth iddynt gynhyrchu profion ar bapur ac ar gyfrifiadur. Cefnogwn sefydlu banciau eitemau a’r defnydd o ystadegau eitem unigol mewn rheolaeth banciau eitemau, a rhown gyngor ar gymedroli a sicrhau ansawdd asesu oddi mewn i ganolfannau. Rydym yn datblygu a threialu manylebau asesu, gan gynnwys fframweithiau credyd, a dyluniwn a gweithredwn asesiadau addysgol ar raddfa fawr, megis arolygon cenedlaethol neu ryngwladol.

Ymchwil ac arfarnu ym myd addysg

Mae AlphaPlus yn darparu arfarniadau annibynnol ar gyfer llywodraethau ac asiantaethau. Meddwn ar arbenigaeth mewn arfarnu polisi datblygiad a gweithrediad; dylunio cwricwlwm, ei ddatblygu a sefydlu cynllun peilot: gwell dysgu ac asesu trwy dechnoleg. Darpara ein tîm arbenigaeth pwnc a sector, a phrofiad, yn ogystal â dealltwriaeth lawn o bob methodoleg ymchwil ym myd addysg.

Rydym yn ymgymryd ag adolygu llenyddiaeth a dogfennau, astudiaethau achos, cyfweliadau ffôn ac arolygon gan gynnwys pob ffurf ar holiadur. Mae ymchwil diweddar wedi cynnwys treialu a datblygu amrediad o weithgareddau ar gyfer ymgynghori â myfyrwyr ac ymarferwyr. Mae’r rhain yn eu tro wedi bwydo gwybodaeth i weithgaredd megis datblygu cwricwlwm a dulliau addysgu, rheoli asesu a datblygu’r gweithlu.

Polisi Llywodraeth mewn addysgu a dysgu

Mae AlphaPlus yn defnyddio profiad yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ym meysydd ymchwil, datblygu polisi a gweithredu gwasanaethau addysg.  Rydym yn dîm o arbenigwyr tra medrus a sgilgar gyda chryfderau arbennig yn y sector uwchradd ac ar draws maes cymhleth ond hanfodol yr agenda sgiliau rhyngwladol, agenda sy’n cynnwys TG, rhifedd a llythrennedd yn ogystal â chasgliad o sgiliau megis datrys problemau, gweithio mewn tîm, sgiliau personol a rhyngbersonol, arweinyddiaeth a rheolaeth.

Enghreifftiau o’n gwaith rhyngwladol

Cyngor Arholiadau y Caribî

Cawsom ein cyflogi gan Swyddfa Ysgrifennydd y Gymanwlad ar ran Cyngor Arholiadau y Caribî i ddarparu cefnogaeth ddatblygu i’w Hadran Fesur ac Arfarnu am ddwy flynedd er mwyn cryfhau eu cyfundrefnau arholi. Mae’r gwaith yn cynnwys hyfforddi staff a sicrhau ansawdd.

Dolen URL i ddisgrifiad o’r prosiect yn Saesneg

Gweinidogaeth Addysg Mozambique

Roedd y prosiect hwn, mewn partneriaeth â Hamlet Computer Company, yn gytundeb mawr tair blynedd  yng Ngweriniaeth Mozambique i gynorthwyo’r Weinidogaeth Addysg (byrfodd Saesneg MINED) i ddiwygio cyfundrefn arholiadau’r wlad.  Yn ei ymdrechion i liniaru tlodi, mae Llywodraeth Mosambique wedi buddsoddi mewn mynediad at addysg a sicrhau bod honno o’r radd flaenaf a’I gosod ar flaen ei rhestr o flaenoriaethau datblygu. Un o’r meysydd sy’n cael ei ystyried fel un sylfaenol i hyn yw gwella cyfundrefn asesu ac arholi ysgolion.

Roedd ein gwaith ni yn cynnwys gwaith hyfforddi a sicrhau ansawdd gyda staff MINED  ac awdur- athrawon er mwyn gwella ansawdd asesu trwy arholiad a gwaith cwrs, a gwella cyfundrefnau a diogeledd cyfundrefnau arholi.

Dolen URL i ddisgrifiad o’r prosiect yn Saesneg